Ynglŷn â Rhagori
Man cychwyn
Yng ngwanwyn 2006, cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu rhaglen dwy flynedd i gefnogi’r agenda cyfiawnder cymdeithasol mewn addysg. Roedd ysgolion yn gymwys ar gyfer grant Rhagori, os oedd ganddynt 50 neu ragor o ddisgyblion o oedran ysgol statudol, a bod o leiaf 20% o’r rheini’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ers hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dosbarthu oddeutu £14.5 miliwn ym mhob blwyddyn i ysgolion Rhagori. Roedd yr arian hwn wedi’i ddynodi i fynd i’r afael â’r cyswllt rhwng anfantais cymdeithasol-economaidd a thangyflawni addysgol. Ar ben hynny, mae awdurdodau lleol wedi cael £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi addysg plant sy’n derbyn gofal.