Rhagori
Prydau Ysgol am Ddim ac Anfantais
Materion Allweddol ar gyfer y Dyfodol
Strategaeth ar gyfer 2009-2010
Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
Rhai o Fanteision Rhagori
Rhai o Fanteision Rhagori
Mae adroddiadau Estyn a’r Uned Pobl a Gwaith yn dweud bod ysgolion Rhagori wedi gallu canfod manteision sylweddol i ddysgwyr sydd dan anfantais. Ymhlith y rhain y mae:
- gwell darpariaeth ar gyfer eu hanghenion, gan fod y staff wedi cael dealltwriaeth gliriach o effeithiau tlodi ar ddysgu;
- mwy o sylw unigol i’w hanghenion, o ganlyniad i’r lefelau staffio uwch a ganiateir gan Rhagori;
- gwell sgiliau cymdeithasol, personol ac emosiynol, o ganlyniad i’r ffocws ar sicrhau bod gan ddisgyblion fwy o allu i ymgysylltu’n gadarnhaol yn y broses ddysgu;
- gwelliannau yn y cwricwlwm, gan fod dysgu wedi dod yn fwy perthnasol i anghenion ac uchelgeisiau’r disgyblion hyn;
- gwell cefnogaeth i ddisgyblion, o ganlyniad i well cysylltiadau â rhieni a’r gymuned ehangach.