Effaith Tlodi
Mae tystiolaeth gan Astudiaeth Carfan y Mileniwm, astudiaeth hydredol fawr o ddatblygiad plentyndod ym Mhrydain, wedi nodi gwahaniaethau yn natblygiad plant o deuluoedd breintiedig a difreintiedig mor gynnar â naw mis oed. Erbyn tair oed, bydd plant o gefndiroedd difreintiedig (a ddiffinnir yn nhermau tlodi’r teulu a lefel isel addysg y rhieni) hyd at flwyddyn y tu ôl i blant o deuluoedd mwy breintiedig.
Mae’r bwlch datblygu hwn yn cyfrannu at y bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol wrth i blant symud i fyny’r ysgol. Bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn dueddol o ddechrau y tu ôl i’w cyfoedion mwy breintiedig, a byddant yn tueddu i syrthio ymhellach ar ei hôl hi wrth iddynt symud i fyny’r ysgol.
Mae ymchwil yn dangos bod effaith negyddol amddifadedd ar ddysgu a chynnydd disgyblion yn gwaethygu pan geir mwy o anfantais cymdeithasol-economaidd.
Fodd bynnag, mae’r gwaith yr ydym wedi’i gomisiynu gan yr Uned Pobl a Gwaith yn nodi nad oes cysylltiad cynhenid rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol gwael. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth hon yn nodi tri ffactor allweddol sy’n ei gwneud yn anoddach i ddysgwyr sydd dan anfantais lwyddo:

- tuedd i ddatblygiad gwybyddol ac ymddygiadol gwannach effeithio ar eu cred yn eu gallu i ddysgu;
- y llai o gefnogaeth effeithiol y byddant yn tueddu i’w chael gan oedolion, yn rhieni ac yn weithwyr proffesiynol;
- yr effaith negyddol ychwanegol pan fyddant yn mynd i ysgolion lle mae lefel yr amddifadedd yn peri her sylweddol i staff addysgu.