Rhagori
Prydau Ysgol am Ddim ac Anfantais
Materion Allweddol ar gyfer y Dyfodol
Strategaeth ar gyfer 2009-2010
Materion Allweddol ar gyfer y Dyfodol
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu gwerthusiadau allanol trwyadl o’r rhaglen gan Estyn a’r Uned Pobl a Gwaith, a bydd canlyniadau’r rhain yn cyfrannu at ddatblygu polisïau ac arferion addysgol yn y dyfodol. Mae adroddiadau interim gan yr asiantaethau hyn wedi nodi, ymysg pethau eraill, bod angen datblygu’r themâu allweddol canlynol yng nghyswllt y rhaglen Rhagori:
- dulliau aml-asiantaeth i gefnogi cynnydd dysgwyr dan anfantais;
- gwneud mwy i gynnwys y gymuned ehangach ym mywyd a gwaith ysgolion;
- mwy o ymdrech i gynnwys rhieni yn nysgu eu plant;
- mabwysiadu dulliau ymgeledd i atgyfnerthu effaith y cartref ar ddysgu disgyblion;
- dulliau mwy eang o ddatblygu iaith sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun pecyn sgiliau cyfannol, fel ffordd o wella dysgu;
- gwneud y cwricwlwm ysgol uwchradd yn fwy perthnasol a galwedigaethol;
- strategaethau ar gyfer gwella cymhelliant, ymddygiad, presenoldeb a hunan-barch dysgwyr;
- gwella prosesau trosglwyddo i ddysgwyr dan anfantais sy’n symud rhwng gwahanol gyfnodau addysg.