Rhagori
Prydau Ysgol am Ddim ac Anfantais
Materion Allweddol ar gyfer y Dyfodol
Strategaeth ar gyfer 2009-2010
Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion
Nodiadau ar Arwain a Rheoli Gweithgareddau Blwyddyn 4
Nodiadau ar Arwain a Rheoli Gweithgareddau Blwyddyn 4
Nodiadau ar Arwain a Rheoli Gweithgareddau Blwyddyn 4
- Bydd grŵp o ysgolion yn cytuno ar y cyllid cyffredinol i’r prosiect gyda phanel cydgysylltu’r consortiwm lleol.
- Dylai’r grwp enwebu cynullydd a fydd yn galw cyfarfod cynnar ar gyfer cynrychiolwyr yr ysgolion sy’n cymryd rhan.
- Dylai’r cynulliadd sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o’r canlynol:
- ni ddylid defnyddio unrhyw gyllid Rhagori y byddant yn ei dderbyn i gefnogi unrhyw weithgarwch craidd yn yr ysgol, ond yn hytrach ar gyfer gweithgarwch datblygu ar y cyd;
- bydd disgwyl iddynt gynnal archwilio neu ymchwil trylwyr ar y cyd;
- diben y gweithgarwch fydd datblygu adnodd er mwyn gwella’r cyd-destun y bydd carfannau o ddisgyblion dan anfantais cymdeithasol-economaidd yn dysgu ynddo yn y dyfodol;
- dylai’i gweithgarwch fod yn flaengar, gyda’r nod o greu cynnyrch a fydd hefyd o fudd i ymarferwyr y tu allan i’r grŵp o ysgolion.
- ni ddylid defnyddio unrhyw gyllid Rhagori y byddant yn ei dderbyn i gefnogi unrhyw weithgarwch craidd yn yr ysgol, ond yn hytrach ar gyfer gweithgarwch datblygu ar y cyd;
- Dylai’r grŵp gytuno ar y ffordd y bydd yn dyrannu’r cyllid sydd ar gael rhwng yr ysgolion. Wrth wneud hynny, dylai’r grŵp ystyried cyfraniad pob ysgol unigol. Efallai y bydd rhai ysgolion yn cyfrannu llai at y prosiect nag eraill; mae un ysgol yn debygol o arwain y fenter a/neu fod â gweithiwr allweddol.
- Yr ysgol sy’n arwain fydd yn derbyn yr holl arian sydd ar gael ar gyfer y weithgaredd benodol. Dylai’r grŵp benderfynu ar sut bydd yr ysgol honno’n trosglwyddo’r arian grant i’r ysgolion eraill. Dylid hefyd cytuno ar system gyfrifyddu ar gyfer gwario’r arian grant.
- Dylai’r grŵp benderfynu ar y staff ar gyfer y prosiect; er enghraifft, p’un ai’n amser llawn neu’n rhan amser, p’un ai drwy secondiad neu drwy benodiad tymor byr.
- Dylai’r grŵp lunio cynllun gwario ar gyfer holl agweddau’r prosiect, gan gynnwys:
- staffio (fel yr uchod);
- gweithgareddau mewn ysgolion unigol;
- unrhyw gymorth neu wasanaethau y bydd y grwp am eu comisiynu gan asiantaethau eraill, gan gynnwys, os yw’n briodol, yr awdurdod lleol;
- gweithgarwch datblygu proffesiynol neu sefydliadol;
- monitro, gwerthuso neu adrodd ar y fenter;
- cynllunio grŵp neu amser paratoi;
- cyfarfodydd rhwng yr ysgolion neu gysylltiadau â mentrau eraill o fewn neu du allan i’r consortiwm;
- gweithgareddau lledaenu.
- staffio (fel yr uchod);
- Dylai’r grŵp gytuno ar y manteision y disgwylir y bydd disgyblion sydd dan anfantais ar hyn o bryd yn eu cael o’r fenter (y canlyniadau) a’r ‘cynnyrch i’w gyhoeddi’ (yr allbynnau) yn sgil y fenter. Rhaid i’r ail o’r rhain gynnwys adroddiad gwerthuso trylwyr gan y grŵp ar weithgarwch y flwyddyn, gan ddangos gwersi ar gyfer y dyfodol. Dylai’r holl ysgolion fod yn fodlon cydweithredu’n gadarnhaol i gyfrannu deunydd at wefan ranbarthol Rhagori. Gallai’r allbynnau hefyd gynnwys deunydd hyfforddi, dogfennau arweiniad, adnoddau addysgu neu ddysgu, cyfeiriaduron o asiantaethau cefnogi, ac enghreifftiau o arfer da.
- Dylai’r grŵp nodi’r asiantaethau allanol y bydd yn ceisio gweithio gyda nhw yn ystod y prosiect.
- Wedi hynny, dylai’r grŵp ymgynghori â’r cydgysylltydd rhanbarthol a swyddog cyswllt Rhagori yr awdurdod lleol i gytuno ar y ffordd y caiff allbynnau’r prosiect eu rhoi at ei gilydd a’u cyflwyno. Lle bo’n bosibl, dylai grwpiau chwilio am gysylltiadau thematig gyda mentrau eraill a fyddai o fudd i’r ddwy ochr ac yn arwain at roi deunydd at ei gilydd ar y cyd.
- Dros dymor yr haf 2009, dylai’r grŵp fod wedi trafod ei fenter i egluro’r trefniadau cyllid a mireinio’r cynllun prosiect y cytunwyd arno’n wreiddiol gyda grwp cydgysylltu’r consortiwm.
- Os yw’r grŵp o’r farn bod angen dyrannu amser ac arian i gwblhau’r gwaith o lunio adroddiad y prosiect neu gynnyrch arall y fenter yn ystod tymor yr hydref 2010, dylid nodi hyn a chytuno arno gyda grwp cydgysylltu’r consortiwm cyn dechrau tymor yr hydref 2009.
- Gall y grŵp ddyrannu cyllid i ‘secondio’, ‘cyflogi’ neu ‘brynu’ personél i ymgyrmryd ag unrhyw swyddogaethau gweinyddu, arwain, rheoli neu werthuso sy’n hanfodol i’r prosiect. Fodd bynnag, dylai’r grŵp hefyd ymchwilio i’r posibilrwydd o gysylltiadau â staff a myfyrwyr addysg uwch ôl-raddedig sydd efallai am wneud ymchwil sy’n gysylltiedig â’r prosiect Rhagori.