Rhagori > De Ddwyrain
Am De Ddwyrain Mae pump AALl yn Ne Ddwyrain Cymru - Blaenau Gwent, Caerdydd, Mynwy, Casnewydd a Thor-faen - yn gweithio mewn partneriaeth consortiwm i ffurfio Consortiwm De Ddwyrain Cymru - SEWC. Gweledigaeth SEWC yw ‘cynyddu potensial pob dysgwr drwy gydweithio effeithlon ac effeithiol.’

Mae dros 150 o ysgolion, bron i 50% o’r holl ysgolion yn ardal SEWC, yn ysgolion Rhagori.

Yn 2006 dynododd SEWC ddau swyddog i ymweld â’r holl ysgolion Rhagori yn y rhanbarth SEWC. Maent yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ac yn sicrhau bod hynt ac effeithiolrwydd prosiectau unigol yn cael eu gwerthuso’n glir. Mae ymweliadau hefyd yn hwyluso cysylltiadau rhwng ysgolion ac yn hyrwyddo arfer da.

Yn 2009, penododd SEWC Arweinydd Panel i arwain ar reoli’r prosiect Rhagori yn broffesiynol, i gydlynu gwaith y swyddogion Rhagori ac i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y Consortiwm a’r swyddogion AALl.  

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru