Rhagori > Sail Resymegol y Gynhadledd
Sail Resymegol y Gynhadledd Sail resymegol y gynhadledd Rhagori ym mis Mawrth

Thema gyffredinol y gynhadledd hon oedd, yn ôl yr arfer, ‘mynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a thangyflawni addysgol’. Fodd bynnag, roedd pwyslais arbennig ar sut all addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned ddiwallu anghenion penodol dysgwyr difreintiedig.

Roedd datblygu ffocws cymunedol yr ysgolion drwy gydweithio mwy â'r gymuned ehangach yn un o'r wyth thema allweddol a nodwyd gennym ar gyfer Rhagori yn 2009-2010. Mae'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion hefyd yn cydnabod bod canolbwyntio ar y gymuned yn agwedd allweddol ar Gweithio gydag Eraill, sy'n un o'r chwe maes gwaith hanfodol ar gyfer ysgolion effeithiol. Mae'r Fframwaith yn datgan yn glir, "Er bod angen i bob ysgol gael ffocws cymunedol, mae hyn yn arbennig o bwysig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, lle mae gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae wrth gynnig i blant a phobl ifanc y profiadau a’r cyfleoedd y mae eu cyfoedion mwy breintiedig yn eu cymryd yn ganiataol."

Mae dwy o themâu allweddol Rhagori, sef gwaith amlasiantaethol a gweithio gyda rhieni, hefyd yn ymwneud yn benodol â ffocws cymunedol yr ysgolion. Mae gweithio gyda rhieni hefyd yn rhan bwysig o’r thema datblygu grwpiau meithrin. Mae thema arall, sef perthnasedd a nodweddion galwedigaethol y cwricwlwm, yn mynnu bod ysgolion yn mynd ati o ddifrif i gryfhau'r cysylltiadau rhyngddynt â'r gymuned ehangach. Dylai hyn, yn ei dro, gael effaith fawr ar ddwy o themâu eraill Rhagori, sef ehangu'r dulliau o ddatblygu gallu ieithyddol er mwyn gwella'r dysgu a datblygu cymhelliant, ymddygiad, presenoldeb a hunan-barch y dysgwyr. Mae thema olaf Rhagori, sef hwyluso‘r cyfnodau pontio yn cydnabod arwyddocâd yr holl themâu eraill yn y cyfnodau pwysig ym mywyd person ifanc.

Yn yr un modd, nid yw addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned wedi'i chyfyngu i un cyfeiriad penodol o dan Gweithio gydag Eraill yn y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. Mae'n egwyddor sy’n berthnasol i holl elfennau'r fframwaith. Yn ogystal, mae ganddi oblygiadau ar gyfer Arweinyddiaeth ar bob lefel: y Rhwydweithiau Arferion Proffesiynol y byddwn yn eu sefydlu; yr Ymyrraeth a'r Gefnogaeth y byddwn yn eu darparu i'r dysgwyr; ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Gwelliant a Chyfrifoldeb; ac, yn bwysicaf oll, y Cwricwlwm a'r Addysgu rydym yn eu darparu.

Mae addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned wedi'i nodi’n faes hollbwysig gan nifer o gyrff sydd wedi ystyried yr agenda tlodi plant yng Nghymru, ac yn enwedig yn argymhellion Grwp Arbenigwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Dlodi Plant a Phwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol.  Cyhoeddwyd canllawiau cyfredol Llywodraeth y Cynulliad ar ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn 2003. Cynigiodd cynhadledd Rhagori gyfle gwerthfawr i ailystyried yr agenda hon, wrth i ni geisio atgyfnerthu ein gweledigaeth sef bod addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn fodd i ddatrys tlodi plant a thangyflawni addysgol yng Nghymru.

Cynhadledd Rhagori

 

Rheoli'r gan GCaD Cymru